Rhita Gawr

Ydych chi’n gwybod beth ydy’r hanes tu ôl i enw’r Wyddfa?  Darllenwch y stori hon…

Rhita Gawr oedd un o gewri cryfaf a mwyaf treisgar yr hen amser.  Yn y dyddiau hynny roedd nifer o frenhinoedd yn teyrnasu dros wahanol rannau o’r ynys, a phob un yn brwydro i fod yn well na’r lleill, ac yn amddiffyn eu tiroedd rhag cyrchoedd gan y cewri oedd yn ymosod o’u hogofâu yn y mynyddoedd.

Roedd Rhita eisiau gwneud mwy na dim ond dwyn ambell ddafad neu fuwch.  Roedd wedi cael llond bol ar y bobl felltith oedd yn galw eu hunain yn frenhinoedd.  Roedd e’n gryfach, yn ddewrach, ac yn bendant yn fwy na phob un ohonyn nhw – er gwaethaf pob coron a chlogyn ffansi brenhinol oedd ganddyn nhw.  Roedd eisiau teyrnasu

Dechreuodd drwy ymosod ar Nynio a Peibio, dau frenin roedd eu teyrnasoedd yn wan ar ôl blynyddoedd o ryfela.  Casglwyd byddin o gewri, lladron a chreaduriaid ffiaidd ynghyd o dyllau butraf, tywyllaf y mynyddoedd, a doedd goresgyn byddinoedd gwan Nynio a Peibio yn ddim problem iddyn nhw. Eilliodd Rhita farfau’r brenhinoedd roedd wedi eu curo, oedd yn symbol o’u cryfder a’u gwrywdod, a gwehyddodd nhw i’w glogyn fel prawf o’i fuddugoliaeth.

Ymgasglodd gweddill brenhinoedd Prydain, dau ddeg wyth ohonyn nhw, a phenderfynu ymosod ar Rhita gyda’i gilydd, er mwyn cael gwared ar y cawr ffiaidd digywilydd hwn.  Ond er gwaethaf eu byddinoedd unedig, ar ôl brwydr waedlyd a chreulon Rhita enillodd.  Ychwanegwyd dau ddeg wyth barf at ei glogyn, a galwodd ei hun yn Frenin Prydain Gyfan.

Cyrhaeddodd rhagor o frenhinoedd o wledydd tramor, yn benderfynol o guro’r cawr-frenin, ond cafodd pob un ei ddyrnu o’r neilltu – wedi ei guro ac yn ddi-farf... neu’n farw ac yn ddi-farf.

Roedd barf-got Rhita bellach yn drwchus ac yn drwm o dan dystiolaeth ei drais a’i bŵer.  Roedd dros gant o farfau yno, wedi eu gwau gyda’i gilydd a’u staenio’n goch gan sawl brwydr.  Ond roedd un ar goll.

Oherwydd roedd un brenin ar ôl ym Mhrydain.

Y Sacson-laddwr.

Perchennog Caledfwlch.

Y Brenin-ryfelwr.

Arthur.

Anfonwyd negesydd i lys Arthur – yn gorchymyn iddo eillio ei farf a’i hanfon at Rhita i gwblhau ei glogyn, a hynny’n syth.  Byddai gwrthod yn golygu y byddai’n rhaid i Rhita ei rhwygo i ffwrdd ei hun.

Roedd Rhita’n gynddeiriog tuag at haerllugrwydd Arthur, ac aeth ar ei union i gaer Rhita gyda’i ddynion, yn uchel ym mynyddoedd Gwynedd.

Cyfarfu’r Brenin a’r Cawr ar doriad y wawr ar gopa uchaf y mynydd uchaf, â gwynt oer gaeafol yn chwyrlïo o’u cwmpas.  Ond roedd y frwydr yn danbaid.  Roedd yn ffyrnig ac yn greulon - malwyd cleddyfau’n deilchion, plygwyd arfwisgoedd, rhwygwyd tarianau.  Dyrnau, traed, dannedd, esgyrn.

Anafwyd y ddau, eu llygaid yn dywyll â chwys a gwaed, ac wrth i Arthur ddarganfod ei owns olaf o gryfder a phenderfyniad, cododd ei gleddyf nerthol Caledfwlch, a’i daro’n galed ac yn ddwfn i benglog Rhita.  Roedd teyrnasiad ofn a thrais ar ben, a sleifiodd dilynwyr Rhita’n ôl i’w cuddfannau tywyll.

Pentyrrodd Arthur a’i ddynion gerrig mawr ar y cawr cwympedig – a’i glogyn – ac wrth i’r eira ddechrau disgyn ar y mynyddoedd moel, aethon nhw adre’n dawel.

Enwyd y lle yn Gwyddfa Rhita, a newidiodd dros amser yn Yr Wyddfa.  Enw hynafol, yn cuddio cyfrinach hynafol a threisgar.

Mae enwau nifer o gewri enwog o chwedlau Cymru wedi eu cofnodi yn y dirwedd - Cribwr, Rhondda, Rhymni, Idris i enwi ond rhai – a fedrwch chi ddod o hyd i’w henwau ar fap?