Sut i Chwarae – Gêm Sylfaenol (Trumps)
• Cymysgwch a rhannwch yr holl gardiau rhwng y chwaraewyr. Dim ond ar y cerdyn sydd ar frig ei bentwr y gall chwaraewr edrych.
• Y chwaraewyr ieuengaf fydd yn dechrau gyntaf. Mae’r chwaraewr sy’n dechrau yn dewis categori (Cryfder, Medr, Swyn, Ofn neu Werth). Mae’r chwaraewr yn dweud beth yw ei sgôr.
• Mae’r chwaraewyr eraill yn adrodd eu sgôr ar gyfer y categori. Bydd y chwaraewr sydd â’r sgôr uchaf yn ennill y cardiau i gyd ac yn eu gosod ar waelod ei bentwr.
• Os bydd gan fwy nag un chwaraewr yr un sgôr, byddant yn gosod eu cardiau yn y canol. Bydd enillydd y rownd nesaf yn ennill y cardiau hyn i gyd.
• Enillydd y rownd sy’n dewis y categori ar gyfer y rownd nesaf.
• Y chwaraewr fydd wedi casglu’r cardiau i gyd sy’n ennill y gêm.
Sut i Chwarae - Modd Brwydro
1. Dewis Carfan
• Rhowch yr holl gardiau yn y canol, wyneb i fyny, fel bod modd i’r ddau chwaraewr eu gweld. Mae’n ddefnyddiol eu trefnu yn nhrefn eu ‘Gwerth’.
• Y chwaraewr ieuengaf sydd yn mynd gyntaf. Mae’r ddau chwaraewr yn eu tro yn dewis cardiau ar gyfer ei ‘sgwad’ o 6 cherdyn. Dylai sgwadiau gael eu cadw â’u hwyneb i fyny o flaen y chwaraewyr nes i’r ddau gael eu cwblhau.
• Dylai cyfanswm y sgwad ddim bod yn fwy na 30 pwynt ‘Gwerth’.
• Unwaith i’r sgwadiau gael eu cwblhau, mae’r cardiau sy’n weddill yn cael eu cymysgu a’u gosod mewn pentwr, ar ei lawr, gan ffurfio Pentwr Adnewyddu. Mae pob chwaraewr yn cymryd cerdyn ychwanegol o’r pentwr yma heb ei ddangos i’w wrthwynebydd.
2. Y Frwydr
• Mae’r frwydr yn cynnwys 5 rownd. Caiff pob rownd ei seilio ar gategori unigol (Cryfder, Medr, Swyn, neu Ofn).
• Edrychwch ar gerdyn uchaf y Pentwr Adnewyddu - categori’r rownd gyntaf yw’r categori sydd â’r sgôr uchaf ar y cerdyn hwn. Rhowch y cerdyn hwn ar waelod y pentwr.
• Mae chwaraewyr yn dewis 5 cerdyn yr un ac yn eu rhoi wyneb i lawr, gyferbyn â 5 cerdyn eu gwrthwynebydd, nesaf at y Pentwr Adnewyddu.
• Datgelir y cardiau fesul un o’r Pentwr Adnewyddu, ac mae’r sgoriau ar gyfer categori’r rownd yn cael eu cymharu ar gyfer pob pâr.
• Caiff gemau cyfartal eu datrys drwy gymharu Maint – mae M (Mawr) yn curo C (Canolig); mae C yn curo B (Bach); ac mae B yn curo M.
• Unwaith y bydd chwaraewr wedi ennill 3 gornest, bydd y rownd yn dod i ben yn syth.
• Bydd unrhyw gardiau sy’n ennill gornest yn cael eu dychwelyd i sgwad eu perchennog. Bydd y cardiau sy’n colli gornest yn cael eu gosod ar waelod y Pentwr Adnewyddu. Bydd y rhai sydd heb gael eu datgelu’n dychwelyd i’w perchennog.
• Mae’r ddau chwaraewr yn cymryd mwy o gardiau o’r Pentwr Adnewyddu nes bod ganddynt 7 cerdyn unwaith eto.
• Collwr y rownd sy’n dewis y categori ar gyfer y rownd nesaf.
• Y chwaraewr cyntaf i ennill 3 rownd yw’r enillydd.
Mae hefyd yn bosibl chwarae Cardiau Brwydro gyda 3 neu 4 chwaraewr
Mae'r cardiau’n cael eu dewis yn yr un modd ag ar gyfer 2 chwaraewr
Os bydd dau chwaraewr yn ennill 2 ornest mewn rownd, byddant yna’n chwarae gêm sydyn i benderfynu gan ddefnyddio un o’r cardiau sydd yn eu dwylo ac sydd heb eu defnyddio, yn yr un categori.
Os bydd mwy nag un chwaraewr yn gyfartal olaf yn y rownd, yna bydd y chwaraewr sy’n dewis categori’r rownd nesaf hefyd yn cael ei benderfynu mewn gêm sydyn, fel uchod.
Ar ôl pob rownd, unwaith y bydd y cardiau sydd wedi colli wedi cael eu hychwanegu at y Pentwr Adnewyddu, dylai’r pentwr gael ei gymysgu’n dda cyn i’r chwaraewyr dynnu eu cardiau newydd.
Bydd unrhyw ornest sydd heb ei datrys trwy gymharu maint, yn cael ei chymharu o ran Gwerth, gyda’r gwerth uchaf yn ennill.
Cyn bo hir: Gwahanol gyfarwyddiadau chwarae ar gyfer: Rhyfela, Antur, Twrnamaint a mwy!