Pwca
Mae nifer o chwedlau ar draws Cymru ynghylch y Pwca, ac fe ddigwyddodd un stori ar fferm Trwyn, Mynyddislwyn, ger Caerffili, nifer o flynyddoedd yn ôl.
Clywodd Blodwen, un o forwynion y fferm, lais bychan wrth iddi lanhau’r aelwyd un diwrnod, yn cynnig rhoi help llaw iddi gyda’i gwaith yn gyfnewid am fwyd a diod. Cytunodd Blodwen, a rhyfeddodd pan gafodd yr holl olchi, smwddio a nyddu gwlân eu gwneud drosti trwy hud. Gyda chaniatâd y ffermwr, Job John Harri, gadawodd Blodwen bowlen o laeth ffres a thafell o fara bob nos yn gyfnewid am yr help.
Un noswaith, fodd bynnag, a hithau’n llwglyd ar ôl bod yn gweithio, bwytaodd y forwyn y bara ac yfodd y llaeth a gadwyd i’r Pwca, gan adael hen grystiau a phowlen o ddŵr budr. Roedd hyn yn gamgymeriad mawr, a’r bore canlynol ymosododd y Pwca ar Blodwen, gan ei chicio a’i tharo ar draws yr ystafell nes iddi sgrechian am help.
O hyn ymlaen, daeth y Pwca’n bla, gan guro ar ddrysau, poenydio anifeiliaid y fferm a dwyn bwyd. Cafodd Job lond bol ar yr holl darfu ar lif arferol y fferm, felly gofynnodd i’w gymydog, Tomos Evans, ddod â’i wn i saethu’r Pwca. Ar ei ffordd yn ôl o fferm Tomos, clywodd Job lais o’r tywyllwch: “Mae dyn yn dod i fy mrifo i... Ond fe welwch chi pwy gaiff ei frifo.” Pan gyrhaeddodd Tomos gyda’i wn, yn sydyn dechreuodd cerrig hedfan tuag ato o bob cyfeiriad. Ceisiodd y ffermwr a’i deulu amddiffyn eu ffrind, ond roedd y cerrig yn dal i’w daro, er na chyffyrddwyd ag unrhyw un arall. Gan ei fod yn gwaedu ac yn ofn am ei fywyd, cymerodd Tomos ei wn a rhedodd adref cyn gynted ag y gallai ei goesau ei gario.
Am beth amser ar ôl y digwyddiad hwn, roedd y ffarmwr a’i deulu’n nerfus iawn ac yn wyliadwrus, ond roedd hi’n ymddangos bod y Pwca wedi symud yn ei flaen. Rai misoedd yn ddiweddarach, roedd Job ar ei ffordd adref o’r farchnad dros y mynydd, ac wrth iddi ddechrau nosi disgynnodd niwl iasol o’i gwmpas. Er iddo gerdded y ffordd honno nifer o weithiau o’r blaen, roedd y ffarmwr ar goll yn llwyr. Wrth iddo basio’r un goeden am y trydydd tro, a thywyllwch o’i amgylch ym mhobman, gwelodd Job olau heb fod ymhell. “Aha! Rhywun â llusern!” dywedodd wrth ei hun, ac aeth ar ei ôl. Ond yn rhyfedd ddigon, ni waeth pa mor gyflym na pha mor araf yr aeth ar ôl y golau, roedd yn aros yr un pellter oddi wrtho o hyd.
Roedd wedi bod yn dilyn y golau am beth deimlai fel milltiroedd, pan stopiodd yn sydyn. Roedd y golau yn awr o fewn ychydig gamau i Job, ac roedd ar fin rhedeg at gariwr y llusern, pan ymrannodd y cymylau a disgleiriodd golau’r lleuad, gan ddangos fod Job yn sefyll ar ymyl clogwyn, gyda cheunant dwfn yn syrthio ychydig is na’i draed. Cododd ei lygaid, a gwelodd greadur bychan gyda llygaid mawr a gwên faleisus ar ei wyneb, yn eistedd yr ochr arall i’r ceunant, ac yn dal cannwyll. Pan sylweddolodd nad oedd Job wedi syrthio i’r trap, chwyrnodd y Pwca, diffoddodd y gannwyll, a diflannodd i’r tywyllwch. Roedd gan Job ormod o ofn i symud, ac arhosodd yn ei unfan nes iddi wawrio, cyn dychwelyd i’r fferm. Ni chafodd y Pwca ei weld na’i glywed fyth eto ar Fferm Trwyn.