Rhita Gawr

Ydych chi’n gwybod beth ydy’r hanes tu ôl i enw’r Wyddfa? Darllenwch y stori hon…
Rhita Gawr oedd un o gewri cryfaf a mwyaf treisgar yr hen amser. Yn y dyddiau hynny roedd nifer o frenhinoedd yn teyrnasu dros wahanol rannau o’r ynys, a phob un yn brwydro i fod yn well na’r lleill, ac yn amddiffyn eu tiroedd rhag cyrchoedd gan y cewri oedd yn ymosod o’u hogofâu yn y mynyddoedd.
Roedd Rhita eisiau gwneud mwy na dim ond dwyn ambell ddafad neu fuwch. Roedd wedi cael llond bol ar y bobl felltith oedd yn galw eu hunain yn frenhinoedd. Roedd e’n gryfach, yn ddewrach, ac yn bendant yn fwy na phob un ohonyn nhw – er gwaethaf pob coron a chlogyn ffansi brenhinol oedd ganddyn nhw. Roedd eisiau teyrnasu.
Dechreuodd drwy ymosod ar Nynio a Peibio, dau frenin roedd eu teyrnasoedd yn wan ar ôl blynyddoedd o ryfela. Casglwyd byddin o gewri, lladron a chreaduriaid ffiaidd ynghyd o dyllau butraf, tywyllaf y mynyddoedd, a doedd goresgyn byddinoedd gwan Nynio a Peibio yn ddim problem iddyn nhw. Eilliodd Rhita farfau’r brenhinoedd roedd wedi eu curo, oedd yn symbol o’u cryfder a’u gwrywdod, a gwehyddodd nhw i’w glogyn fel prawf o’i fuddugoliaeth.
Ymgasglodd gweddill brenhinoedd Prydain, dau ddeg wyth ohonyn nhw, a phenderfynu ymosod ar Rhita gyda’i gilydd, er mwyn cael gwared ar y cawr ffiaidd digywilydd hwn. Ond er gwaethaf eu byddinoedd unedig, ar ôl brwydr waedlyd a chreulon Rhita enillodd. Ychwanegwyd dau ddeg wyth barf at ei glogyn, a galwodd ei hun yn Frenin Prydain Gyfan.
Cyrhaeddodd rhagor o frenhinoedd o wledydd tramor, yn benderfynol o guro’r cawr-frenin, ond cafodd pob un ei ddyrnu o’r neilltu – wedi ei guro ac yn ddi-farf... neu’n farw ac yn ddi-farf.
Roedd barf-got Rhita bellach yn drwchus ac yn drwm o dan dystiolaeth ei drais a’i bŵer. Roedd dros gant o farfau yno, wedi eu gwau gyda’i gilydd a’u staenio’n goch gan sawl brwydr. Ond roedd un ar goll.
Oherwydd roedd un brenin ar ôl ym Mhrydain.
Y Sacson-laddwr.
Perchennog Caledfwlch.
Y Brenin-ryfelwr.
Arthur.
Anfonwyd negesydd i lys Arthur – yn gorchymyn iddo eillio ei farf a’i hanfon at Rhita i gwblhau ei glogyn, a hynny’n syth. Byddai gwrthod yn golygu y byddai’n rhaid i Rhita ei rhwygo i ffwrdd ei hun.
Roedd Rhita’n gynddeiriog tuag at haerllugrwydd Arthur, ac aeth ar ei union i gaer Rhita gyda’i ddynion, yn uchel ym mynyddoedd Gwynedd.
Cyfarfu’r Brenin a’r Cawr ar doriad y wawr ar gopa uchaf y mynydd uchaf, â gwynt oer gaeafol yn chwyrlïo o’u cwmpas. Ond roedd y frwydr yn danbaid. Roedd yn ffyrnig ac yn greulon - malwyd cleddyfau’n deilchion, plygwyd arfwisgoedd, rhwygwyd tarianau. Dyrnau, traed, dannedd, esgyrn.
Anafwyd y ddau, eu llygaid yn dywyll â chwys a gwaed, ac wrth i Arthur ddarganfod ei owns olaf o gryfder a phenderfyniad, cododd ei gleddyf nerthol Caledfwlch, a’i daro’n galed ac yn ddwfn i benglog Rhita. Roedd teyrnasiad ofn a thrais ar ben, a sleifiodd dilynwyr Rhita’n ôl i’w cuddfannau tywyll.
Pentyrrodd Arthur a’i ddynion gerrig mawr ar y cawr cwympedig – a’i glogyn – ac wrth i’r eira ddechrau disgyn ar y mynyddoedd moel, aethon nhw adre’n dawel.
Enwyd y lle yn Gwyddfa Rhita, a newidiodd dros amser yn Yr Wyddfa. Enw hynafol, yn cuddio cyfrinach hynafol a threisgar.
Mae enwau nifer o gewri enwog o chwedlau Cymru wedi eu cofnodi yn y dirwedd - Cribwr, Rhondda, Rhymni, Idris i enwi ond rhai – a fedrwch chi ddod o hyd i’w henwau ar fap?